Canolbwynt adnoddau ‘Cymuned o bractis’ ar-lein yw Exchange: Addysg A Gofal, sy’n ceisio cynnig adnoddau allai fod o fudd i wella profiadau addysg a’r canlyniadau o hynny i bobl ifanc a phlant sydd mewn neu ar fin gadael gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cred Exchange ydi bod modd i bractis ddatblygu ar ei orau pan ddaw arbenigedd a phrofiad ynghyd i gydweithredu. Mae’r wefan hon yn cynnig lleoliad ar gyfer deunydd cyhoeddedig a heb ei gyhoeddi i gael ei rannu’n rhydd, gyda’r bwriad o gefnogi strategaeth llywodraeth Cymru tuag at blant mewn gofal. Mae Exchange: Addysg A Gofal yn cynnal adnoddau yma ac yn cynnig cyfleoedd i drafod a chydweithio ym mhellach. Gwelwch ein blog Addysg & Gofal: